AELODAU NEWYDD (cantorion) Cynhelir ymarferion wythnosol yn y Llyfrgell Newydd, Heol Ynysmeurig, Abercynon, ar ddydd Llun a dydd Mercher o 7.00 y.h. tan 8.30 y.h. (heblaw am wyliau banc a gofunedau) Yn ogystal ag astudio cerddoriaeth newydd a rhoi sglein ar hen ffefrynnau, credwn yn gryf y dylai cerddoriaeth fod yn fwynhad, yn hwyl ac yn ddiddanwch. Caiff aelodau newydd croeso cynnes pob tro. Does dim angen i chi fedru canu cystal â Stuart Burrows. Yr hyn sydd angen yw cariad at ganu, brwdfrydedd ac ymrwymiad. Does dim clyweliad neu brawf canu - dim ond troi mewn i unrhyw ymarfer neu cysylltwch ag unrhyw aelod / swyddog ar y we. Dewch i wrando yn unig, (heb bwysedd) cyn penderfynu. Synnech gymaint y byddech yn mwynhau. Croesawir gwragedd a chyd-ymdeithion i adran y menywod, sy’n gefnogol iawn i’r côr, wrth oruchwylio ein hachlysuron cymdeithasol. |